Mae caredigrwydd yn cysylltu
Bwriad Cysylltu â Charedigrwydd ydy creu dealltwriaeth am les a dylanwad caredigrwydd arnom ni ein hunain, ac eraill yn ein cymuned.
Fel rhan o’r ymgyrch, mi fydd y partneriaid rhanbarthol yn datblygu rhwydweithiau cymunedol cryfach er mwyn creu amgylchedd ble mae gweithredoedd caredig yn gallu ffynnu a digwydd yn naturiol.
Ymunwch â ni i weithredu ac i ddysgu mwy am ymgyrch Cysylltu â Charedigrwydd yng Ngorllewin Cymru, a’r dylanwad gall caredigrwydd cael ar ein hunain ac ar ein cymunedau.
Ein 5 Neges Allweddol
Mae caredigrwydd i bawb
Mae caredigrwydd yn gynhwysol, nid yw’n gosod rhwystrau ac nid yw’n gwahaniaethu - mae ar gyfer pawb!
Mae caredigrwydd yn dda i ti
Mae ymchwil feddygol wedi profi fod bod yn garedig a derbyn caredigrwydd yn cael effaith gorfforol gadarnhaol arnom.
Mae caredigrwydd yn ein cysylltu
Mae'n dod â ni at ein gilydd ac yn ein helpu i rannu.
Mae caredigrwydd yn ein hamddiffyn
Profwyd fod bod yn garedig a derbyn caredigrwydd yn ein helpu i fyw bywydau hirach ac hapusach.
Mae caredigrwydd yn ysbrydoli
Pan fydd eraill yn garedig rydym yn fwy tebygol o fod yn garedig ein hunain.
Y Gwyddoniaeth tu ôl i Garedigrwydd
Cymryd rhan
Mae’n dechrau gyda CHI!
Gall pawb fod yn garedig a thrwy gymryd rhan yn yr Ymgyrch Cysylltu â Charedigrwydd – hyd yn oed drwy wneud y pethau bychain – gallwch wneud gwahaniaeth mawr!